Anfonwch eich Ceisiadau


blinc.
Anfonwch eich Ceisiadau.

Gŵyl Gelf Ddigidol Conwy. Hydref y 26ain – 28ain 2012.

“Conwy a Garaf, Câr Conwy fi”.
CRYNODEB
Ym 1974 fe berfformiodd Joseph Beuys ddarn o waith o’r enw “I Like America and America Likes Me” yn Efrog Newydd. Dyna’r datganiad rydym ni am gadw mewn cof wrth gomisiynu artistiaid ar gyfer Gŵyl Gelf Ddigidol Conwy. Yn wir – rydym ni am gymhwyso’r datganiad i dref Conwy ei hun -
“Conwy a Garaf, Câr Conwy fi”.

Mae sawl ffordd o ymateb i’r datganiad a sawl ffordd o’i ddehongli, ac rydym ni’n chwilio am artistiaid lleol a rhyngwladol i ymateb i’r her.
Mae’r curaduron yn gobeithio y bydd defnyddio’r datganiad yma fel cyfarwyddyd yn esgor ar ddarnau o gelfyddyd fydd yn ysbrydoli pobl ac yn gwneud iddyn nhw feddwl.

Bydd blinc yn arddangos y gwaith llwyddiannus dros gyfnod o ddeuddydd gan ddefnyddio tref Conwy yn gefndir creadigol i’r cyfan.
Mae’r comisiynau yn benodol i amser a safle arbennig.

GWNEUD CAIS
Os hoffech chi wneud cais anfonwch e-bost at office@blincdigital.com

Mae’n well gennym ni dderbyn ceisiadau yn electroneg. Fodd bynnag, mae’n bosib eu hanfon drwy’r post (mae cyfeiriad swyddfa blinc ar y wefan) ond mae tâl o £9.00 am hyn oherwydd y bydd angen i ni drosglwyddo’r cais i feddalwedd ddigidol yn barod ar gyfer y broses o lunio rhestr fer. Ewch i’r wefan am fwy o fanylion.

Mae gofyn i artistiaid sydd â diddordeb gysylltu â blinc erbyn Mai’r 25ain 2012. Mae’n rhaid i’ch cais gynnwys crynodeb (dim mwy na 150 gair) o’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud, CV cyfredol a phorth digidol fel bod modd i ni weld eich gwaith.
Anfonwch eich cais at office@blincdigital.com. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt.

Bydd y pwyllgor dethol yn edrych ar y ceisiadau sydd wedi dod i law ac yn llunio rhestr fer. Bydd yr artistiaid yn gwybod a ydyn nhw wedi llwydo i gyrraedd y rhestr fer erbyn Mehefin y 10fed 2012.

Bydd gofyn wedyn i’r artistiaid hyn ymhelaethu ar eu cais. Mae hyn i gynnwys eglurhad o sut bydd y gwaith yn cael ei gyflawni a pha offer fydd ei angen. Fe ddylid anfon yr wybodaeth yma erbyn Mehefin y 29ain 2012.

Wedi’r dyddiad hwn bydd y pwyllgor llawn yn asesu’r rhestr fer ac yn penderfynu ar yr artistiaid llwyddiannus. Bydd yr artistiaid yn gwybod a ydyn nhw wedi llwydo neu beidio erbyn Gorffennaf yr 20fed 2012.
Mae’n bosib i’r curaduron awgrymu bod rhai artistiaid yn creu cywaith unigryw fydd yn ychwanegu at brofiad y naill fel y llall. Mewn achlysuron o’r fath bydd modd i artistiaid gyfuno eu cyllidebau i brynu offer – rhywbeth fydd yn hanfodol os ydych chi eisiau arddangos gweithiau celf o’r radd flaenaf mewn rhai safleoedd yn y dref. Yn yr achosion hynny, artist gwreiddiol pob darn o waith unigol fydd yn derbyn y clod.

Mae’n rhaid gorffen pob darn o waith ar gyfer y Safleoedd Taflunio Digidol erbyn Hydref yr 8fed 2012 (FAN BELLAF).

Bydd gofyn i’r artistiaid sy’n cynhyrchu darnau ar gyfer safleoedd penodol gwblhau eu gwaith erbyn Hydref y 10fed 2012. Mae’n bwysig fod y curaduron yn ymweld â’r artistiaid pan maen nhw wrth eu gwaith i weld sut mae pethau’n dod ymlaen.

Gwybodaeth am y safleoedd:
Mae sawl safle posib yn nhref Conwy.
Byddwn yn cadarnhau’r safleoedd cyn hir.
Fe all un safle fod yn gefndir i fwy nag un darn o waith. Os ydi’ch syniad chi ar gyfer un safle yn benodol, nodwch hynny yn eich cais.

Bydd y sioeau taflunio yn cynnwys gwaith nifer o artistiaid. Os hoffech chi i ni ystyried eich gwaith, nodwch hynny yn eich cais.
Mae rhai safleoedd yn ddelfrydol ar gyfer creu cywaith. Os ydych chi’n fodlon cydweithio ag artistiaid eraill, nodwch hynny yn eich cais.

Bydd y panel yn edrych ar yr holl geisiadau yn deg a dymunwn bob llwyddiant i bawb sy’n ymgeisio. Nid oes modd newid penderfyniadau terfynol y pwyllgor.

Hoffa tîm blinc ddiolch o flaen llaw i bawb sy’n ystyried gwneud cais ac sy’n dangos diddordeb yn y prosiect.

BETH YDYM NI’N CHWILIO AMDANO?

Perfformiadau diddorol a chyfoes sy’n gwneud defnydd o olau neu gyfrwng digidol.
Joci Fideo
Ffilmiau
Darnau sain
Animeiddiadau cyfrifiadurol
Gwaith â laser
Gosodiadau sain
Byddwn ni hefyd yn ystyried cerfluniau golau a darnau fideo.

COMISIYNAU

Hyd at 20 comisiwn gwerth rhwng £500 a £3000 yr un.
Yn ogystal â’r Ŵyl Gelf Ddigidol mae yna hefyd arddangosfa arbennig. Caiff hwn ei hysbysebu ar wahân.
Mae modd cyfuno’r comisiynau neu fe all artistiaid ddewis cydweithio â’i gilydd i greu un darn mawr o waith. Bydd comisiwn gwahanol ar gyfer pob cyfrwng.

Rydym ni’n annog pobl i wneud ceisiadau sy’n cynnwys sawl cyfrwng neu sy’n golygu cydweithio ag artistiaid eraill.

Mi fydd rhai darnau o waith yn symud o leoliad i leoliad. Yn yr achosion hyn bydd gofyn i ni godi tal bychan i gwrdd â’n costau. Bydd artist gwreiddiol pob darn o waith yn derbyn y clod.
Mae blinc yn gyfle gwych a chyffrous i artistiaid gan fod Gwledd Conwy yn denu dros bum mil ar hugain o ymwelwyr i’r dref – cyfle i chi arddangos eich gwaith i filoedd o bobl. Mae’r dechnoleg sydd ar gael yn yr ŵyl yn ddrud iawn ac fel arfer dim ond mentrau masnachol sy’n gallu ei fforddio. Fodd bynnag, mae’r ŵyl yn rhoi cyfle i artistiaid ddefnyddio’r dechnoleg hon gan gynnwys defnyddio un neu fwy o’r 20,000 taflunydd Lumiere clirlun, fydd yn galluogi rhai artistiaid i daflunio eu gwaith ar raddfa gwbl anhygoel.

Dyddiadau Pwysig.
Mynegi diddordeb – anfon datganiad at blinc erbyn Mai’r 25ain 2012
Llunio rhestr fer Mehefin y 10fed 2012
Artistiaid yn cael gwybod os ydyn nhw ar y rhestr fer Mehefin yr 11eg 2012
Cyflwyno’r cais terfynol Mehefin y 29ain 2012
Dewis yr artistiaid llwyddiannus Mehefin y 29ain –Gorffennaf yr 20fed 2012
Rhoi gwybod i’r Artistiaid a ydyn nhw’n llwyddiannus Gorffennaf yr 21ain 2012
Llofnodi’r cytundebau a’u dychwelyd drwy’r post Awst y 1af 2012
Anfon y gweithiau digidol terfynol at y tîm technegol Hydref yr 8fed 2012
Gwiriadau technegol Hydref y 10fed-19eg
Gosod popeth yn barod Hydref y 26ain 2012
Yr Ŵyl Hydref y 26ain-27ain 2012

CEFNDIR A LLEOLIAD

Mae cestyll a threfi caerog Gwynedd yn enghreifftiau godidog o bensaernïaeth filwrol Ewrop yn y drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Fe ddechreuodd Edward, brenin Lloegr, adeiladu ei gestyll ym 1283 ac er gwrthryfel Madog ap Llywelyn a’i luoedd ym 1294 aeth y gwaith o adeiladu’r cestyll yn ei flaen. Cwblhawyd castell Caernarfon ym 1330 a Biwmares ym 1331. Ychydig iawn o waith atgyweirio sydd wedi ei wneud i’r cestyll ac mae’r nodweddion gwreiddiol fel y rhagfuriau, y pontydd codi, giatiau’r dref, rhwystrau, rhag-gaerau, daeargelloedd, tyrrau a waliau llen yn ddelfrydol ar gyfer sioeau celf cyfoes. Mae castell Conwy, sy’n Safle Treftadaeth y Byd, yn enghraifft wych o bensaernïaeth yr oesoedd canol ac mae’n gefndir delfrydol i unrhyw wŷl ddigidol.

Mae blinc yn ŵyl sy’n dathlu celfyddyd ddigidol o bob math ac eto eleni, mae wedi ei drefnu ar yr un penwythnos â Gwledd Conwy. Gyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Gonwy a Cadw bydd blinc yn arddangos tafluniadau 3D a gweithiau ar gyfer safleoedd penodol o amgylch y dref.

© Copyright blinc - Designed by Pexeto